|

Textease Studio CT – nawr ar gael yn Gymraeg!
Textease Studio CT - Meddalwedd arloesol sy’n cynnwys naw offer craidd pwerus.
Gellir defnyddio rhain drwy rhyngwyneb cyfeillgar. Gall y defnyddiwr rheoli’r meddalwedd drwy osod offer o fewn y rhyngwyneb pan fod eisiau. Mae Textease Studio CT yn addas i blant o bob oedran a gallu. Drwy ddefnyddio’r meddalwedd gall plant gyrraedd safonau uchel mewn nifer o bynciau ar draws y cwricwlwm heb ddefnyddio meddalwedd oedolion cymhleth. 
Y naw offer intigreiddiol yw:
Textease Studio CT
Cyhoeddi CT
Ein pecyn canmoladwy sy’n cynnwys prosesydd geiriau a bwrdd gyhoeddwr amlgyfrwng.
Mae’r meddalwedd yn addas i bob math o dasg ysgrifennu a chyhoeddi. Gall disgyblion ddefnyddio testun, clipluniau, delweddau, animeiddiadau, sain a gor-gysylltiadau i gynllunio gwaith.
Lluniadu CT
Offer chwyldroadol ar gyfer tynnu lluniau fector.
Mae’r pecyn yn cynnwys cynlluniau 2D a chlipluniau isometrig 3D sy’n hollol addas i greu modelau amgylcheddol.
Taenlenni CT
Taenlen bwerus sy’n cynnwys offer syml, rhyfeddol i’r disgyblion.
Hawdd canolbwyntio ar fodelu a chreu taenlennu heb ddefnyddio meddalwedd gymhleth. Mae modd creu nifer o daenlennu, graffiau a nodiadau ar yr un dudalen.
Ffilmiau CT
Gall disgyblion gynhyrchu a golygu ffilmiau cyffrous mewn munudau.
Mae’r meddalwedd yn cynnwys llinell amseredig liwgar. Medr athrawon a disgyblion ddefnyddio’r meddalwedd i greu effeithiau gwych yn syml iawn.
Cronfa Ddata CT
Bas Data aml- ddefnyddiwr gwych sy’n hawdd iawn i’w ddefnyddio.
Mae’n bosibl bwydo data yn gyflym iawn ac felly yn rhyddhau amser i ganolbwyntio ar archwilio a graffio’r data yn fanwl.
Paentio CT
Mae’r meddalwedd wedi ei ddylunio i ddatblygu sgiliau creadigol plant.
Defnyddir amryw o wahanol frwsys, lliwiau, patrymau ac effeithiau rhyfeddol. Hefyd mae’n hawdd creu stampiau drwy ddefnyddio clipluniau neu ddelweddau digidol.
Cyflwyno CT
Offer cyflwyniadol pwerus syml i greu cyflwyniadau amlgyfrwng mewn modd uniongyrchol.
Medr ddefnyddio a chyfuno testun, delweddau digidol, sain a chlipau fideo i greu cyflwyniadau anhygoel drwy glicio botwm yn unig.
Crwban CT
Rhaglen Logo sy’n defnyddio yr un gorchmynion sylfaenol a ddefnyddir wrth reoli crwban llawr.
Hefyd mae posibliadau i ddatblygu rhaglennu cymhleth yn cynnwys gweithdrefnnau.
Cangen CT
Bas Data canghennog syml i blant. Gellir dosbarthu gwybodaeth mewn modd dychmygol a hwylus.
Drwy ddarparu atebion oes/nagoes i gwestiynnau, mae modd dosbarthu ac adeiladu coeden wybodaeth yn raddol.
Mae Textease Studio CT hefyd yn cynnwys:
- Miloedd o adnoddau defnyddiol fel clipluniau, ffotograffau digidol, clipiau fideo a sain
- Adnoddau traws-gwricwlaidd yn cynnwys syniadau sy’n arbed amser i athrawon prysur
- Sain leferydd naturiol sy’n cefnogi darlleniad testun. Gall y meddalwedd ddarllen llythyrau, geiriau, brawddegau neu baragraffau
- Cyfoeth o gefnogaeth i athrawon fel canllawiau i ddechrau defnyddio’r meddalwedd, demos fideo, ac hefyd canllawiau ‘Top Tips’
Textease Studio CT Gartref
Mwy o wybodaeth am drwyddedu eich disgyblion ac athrawon i ddefnyddio’r un feddalwedd gartref.
|